Cwsg, y gweithgarwch hanfodol yna y mae ar bawb ei angen. Mae gan Storiel gasgliad hynod ddifyr o wrthrychau sy’n ymwneud â chwsg, nad ydynt i’w gweld efo’i gilydd fel arfer. Bydd yma ddathliad clyd, lliwgar o gwiltiau clytwaith, carthenni traddodiadol, dillad nos, crud, poteli dŵr poeth a hyd yn oed fodel o wely bocs traddodiadol, a wnaed yn y 19eg ganrif. Mae nifer o’r deunyddiau dros gan mlwydd oed, wedi eu gwneud o wlân a lliain a gynhyrchwyd yn lleol.
Efallai byddai gennych ddiddordeb yn
Pete Jones & Robert Eames: Pentref Coll y Glannau?
13 December 2024Fel rhan o'r arddangosfa Hirael 'Pobol Iawn' (Portreadau a Lleisiau Hirael), gwahoddir ymwelwyr i ddigwyddiad arbennig sy'n cynnwys trafodaeth gyda'r artist Pete Jones a'r ffotograffydd Robert Eames. Bydd Pentref Coll Y Glannau yn cynnig cyfle unigryw i ymchwilio'n ddyfnach i'r straeon a'r themâu y tu ôl i'r arddangosfa ac i fyfyrio ar hanes gweledol cyfoethog ardal Hirael.
HIRAEL – ‘Pobl Iawn’: Portreadau a Lleisiau Hirael
23 November - 24 December 2024Mae BLAS, Pontio yn cyflwyno project arbennig sy’n cofnodi cymuned arbennig Hirael gyda chefnogaeth Storiel. Mae Gwion Aled Williams a’r ffotograffydd Iolo Penri wedi bod yn ymweld â Hirael sawl gwaith dros gyfnod o flwyddyn gan gael cipolwg o’r gymuned a’r unigolion sy’n byw yno. Bydd nawr cyfle i weld ffrwyth y gwaith o gofnodi cymuned Hirael mewn arddangosfa arbennig yn Storiel.