Yng nghanol erchylltra rhyfel cartref Syria, cafodd cannoedd o filoedd o ddinasyddion eu lladd a miliynau yn fwy eu dadleoli. Mae’r genedl hynafol hon o ddysg a chelf, o ddarganfyddiadau ac athroniaeth, wedi cael ei difrodi gan ryfel yng ngolwg y byd.

 

Beth all aros, yn y fath le? Beth all barhau, yn y fath anhrefn? Beth sydd ar ôl, ar ôl y fath golled?

 

Dywedodd Van Gogh unwaith –

Diben celf yw cysuro’r rhai a dorrwyd gan fywyd.”

 

Cymhelliant yr arddangosfa hon yw arddangos gwaith celf sy’n ysbrydoli, a dathlu’r effaith y gall celf ei chael yn ystod rhyfel – a rhoi cipolwg amrywiol ac agored o sîn gelf Syria.

 

Sefydlwyd y gymdeithas Syria.Art gan Khaled Youssef a Humam Alsalim – dau sy’n frwd dros gelf ac yn llawn angerdd am eu mamwlad. Maent yn awyddus i roi llwyfan a llais i artistiaid cyfoes o Syria sy’n byw ym mhob cwr o’r byd.

 

Mewn cyfnodau cythryblus” meddai Khaled, “mae’n hanfodol cynnig gweledigaeth arall o Syria drwy ei diwylliant a gwaith ei hartistiaid.

 

Fe gafodd yr arddangosfa hynod yma ei gyd-guradu gan

Menna Thomas (Caernarfon) a Humam Alsalim (Berlin).