Arddangosfa gymysg o waith celf fotanegol, tirluniau, portreadau a  bywyd gwyllt.  Sefydlwyd Cymdeithas Celf Gain Gogledd Cymru yn 1990, gan ddechrau yn bennaf fel grŵp o arlunwyr yn arbenigo mewn celf fotanegol.  Mae’r Gymdeithas wedi datblygu gydag aelodau yn awr yn cynnwys nifer o arlunwyr proffesiynol sydd wedi eu gwobrwyo ac sy’n arbenigo mewn amrywiaeth o bynciau a chyfryngau celf gain.  Mae’r arlunwyr a wahoddir i ymuno â’r gymdeithas yn arddangos rhagoriaeth dechnegol a safbwynt rhyfeddol.

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Arddangosfa Gelf hawlfraint Rhodri Jones

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones

07 September - 02 November 2024

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones, gyda chelf ac archifau sy'n dathlu bywyd a gwaith John Ellis Jones (1929-2023), Darlithydd Clasuron a chyn guradur anrhydeddus yr amgueddfa. "Does dim poen mor fawr â'r cof am lawenydd yn y galar presennol" Aeschylus⁠ Ffocws yr arddangosfa yw detholiad o ffotograffau gan Rhodri Jones sydd yn llyfr COFION.  Maen nhw'n ffotograffau teimladwy, llawer o'i dad John Ellis Jones, yn dilyn marwolaeth ei fam, Renée, ac wrth iddo ddatblygu dementia.  Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys traethodau byrion gan Angharad Price a Manon Steffan Ros, yn ogystal â cherddi dethol sy'n archwilio colled a galar.  Mae'r llyfr yn archwiliad o alar sy'n bersonol ac yn gyffredinol gan ddod ag ymatebion gwahanol ynghyd sy'n troi galar yn sgwrs.