Ysgythriadau, lithograffau ac Engrafiadau Pren o Gasgliad Archifau Prifysgol Bangor

Ganed Brangwyn yn Bruges, ac fe fu’n byw ac yn gweithio yn y DU fel darlunydd, peintiwr, murluniwr, dyluniwr dodrefn, tecstilau a serameg. Hefyd, roedd Brangwyn yn wneuthurwr printiau cynhyrchiol: gweithiodd yn bennaf ar ysgythru, lithograffi ac engrafu pren. Bu’n arddangos ym Mhrydain, America ac ar draws Ewrop gyfan; cafodd ei anrhydeddu gan nifer o sefydliadau a chyrff amrywiol; cafodd ei ethol yn aelod o’r Academi Frenhinol ac yn 1952, ef oedd yr artist byw cyntaf i arddangos ei waith fel arddangosfa un person.

Mae gan nifer o amgueddfeydd Ewropeaidd a Phrydeinig roddion gan Brangwyn – yn cynnwys Bangor, a elwodd o rodd o gasgliad bychan o waith dyfrlliw, lluniadau, printiau a llyfrau gan Brangwyn fymryn cyn ei farwolaeth.  Roedd rhai o’r ysgythriadau a’r lithograffau yng nghasgliad Bangor wedi’u cynnwys mewn cyhoeddiadau megis The Brangwyn Portfolio (Paris 1927) a Frank Brangwyn, Zwanzig Graphische Arbeiten (Vienna 1921) ac maent yn cael eu harddangos mewn fframiau unigol yn yr arddangosfa hon.  Bellach, mae’r gweithiau hyn yng ngofal Archifau Prifysgol Bangor ac maent ar gael i’r cyhoedd gael mynediad atynt fel arfer.

Yn ystod ei oes, cynhyrchodd Brangwyn dros 500 o ysgythriadau, 340 o engrafiadau pren, 160 o lithograffau ac 130 o blatiau llyfrau o ryw fath.  Mae’r catalog raisonné a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Dr Elizabeth Horner o’r holl brintiau hysbys gan Brangwyn yn cynnwys manylion perthnasol ynghylch maint, perchnogaeth, gwaith ac astudiaethau perthnasol, gyda darluniau cymharol o astudiaethau, brasluniau a ffotograffau a ddefnyddiwyd gan yr artist. ⁠ ⁠Dyma ganlyniad sawl blwyddyn o waith ymchwil pan fu Dr Horner wrthi’n catalogio ac yn cyhoeddi llawer o allbwn toreithiog Brangwyn – yn cynnwys serameg a gwydr lliw; mae wedi teithio at gasgliadau ledled y byd i weld a chofnodi pob braslun, dyluniad, peintiad a phrint. ⁠ Mae’r detholiad bychan o brintiau sydd yn yr arddangosfa hon yn ceisio dangos rhai o gryfderau a sgiliau Brangwyn y gwneuthurwr printiau, ac mae’n gwneud hynny i gyd-fynd â, a dathlu cyhoeddiad catalog Dr Horner.