Os da chi rhwng 11 a 25 oed, dewch i ddathlu Dydd Gwyl Dewi hefo ni:

Gorymdaith Band Samba a Llusernau Chwefror 25 am Hanner Dydd o Storiel i’r cloc

Gweithdy Addurno Llechi pnawn Chwefror 25 a 26 yn Storiel 1 -4 addas i bob oedran

POPETH AM DDIM fel rhan ymgyrch Llywodraeth Cymru:

GAEAF LLAWN LLES a’r GWYL AMGUEDFEYDD CYMRU

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Arddangosfa Gelf

Prifysgol Bangor: 140 mlynedd o Gasglu Celf

01 February - 29 March 2025

Yn ôl erthygl a gyhoeddwyd gan y ‘Times Higher Education’ yn 2005, mae casgliad celf Prifysgol Bangor ymhlith y deg casgliad celf gorau yn y Brifysgol yn y DU. Mae'r casgliad celf yn cynnwys tua 650 o weithiau, sy'n dyddio o'r 17eg i'r 21ain ganrif, yn ased artistig a diwylliannol pwysig i'r Brifysgol ac i ogledd Cymru gyfan. Mae'r arddangosfa hon yn dathlu pen-blwydd y Brifysgol a'i chelf drwy arddangos uchafbwyntiau o'r casgliad.

Arddangosfa Gelf

Tu Ôl i’r Llenni

08 February - 22 March 2025

Mae ‘Tu Ôl i’r Llenni’ yn brosiect trwy’r rhwydwaith CELF (Casgliad Celf Gyfoes Cymru) a Celf ar y Cyd. Gwefan yw Celf ar y Cyd sy’n rhoi cyfle i bawb bori, dysgu a chael ysbrydoliaeth gan filoedd o weithiau celf gyfoes o gasgliad Amgueddfa Cymru. Bwriad y prosiect oedd peilota sut gall ysgolion cael mynediad gwell i’n casgliadau cenedlaethol – a sut gall orielau sy’n rhan o rhwydwaith CELF helpu hwyluso hynny. Un model o weithio sydd yma. Mae Storiel a Plas Glyn y Weddw wedi gweithio gyda dwy ysgol gynradd; Ysgol Garnedd (Bangor) ac Ysgol Cymerau (Pwllheli), yr artist Luned Rhys Parri ac Amgueddfa Cymru i gyflawni’r gwaith.