Cyflwynir pymtheg eitem o gasgliad celf STORIEL i ddangos sut mae gwahanol artistiaid wedi ymateb i’w pwnc. Gan wahodd y gwyliwr i edrych yn agosach ar bob un, eu nodweddion tebyg neu wahanol, cynigir elfennau i’w cysidro i helpu dadansoddi a darganfod mwy am ddulliau a dylanwadau’r artist wrth greu’r gwaith celf a welwch. Yn bennaf yn weithiau paent olew, mae hefyd luniadau o inc, graffit a chreon cŵyr. Mae’r gweithiau yn amrywio o bortreadau cyfnod 1800au i’r 1970au a thirluniau o’r 1920au i 2006. Ymysg y rhain cawn waith gan Frank Brangwyn, John Piper, Kyffin Williams, Brenda Chamberlain, Susan Adams, Dan Llywelyn Hall ac eraill.

Mae STORIEL yn datblygu cyfres o daflenni edrych ar …’  at ddefnydd ysgolion gan gyfeirio at eitemau yn y casgliadau.