Mae Elizabeth Morgan – gwraig i sgweier gwledig a oedd yn byw yn yr Henblas ym Môn yn y 18fed ganrif – wedi gadael etifeddiaeth hynod ar ei hôl. Rhwng 1754 a 1772, bu’n cofnodi ei gweithgareddau garddio yn fanwl mewn dyddiadur, sydd bellach wedi cael cartref yn archifau Prifysgol Bangor ynghyd â’i llyfr ryseitiau a chyfrifon ei thŷ.  Mae ei dyddiadur yn cofnodi’r planhigion a dyfai, o ble y deuent a sut i’w tyfu. Roedd ganddi ddiddordeb mawr mewn cadw at y ffasiynau diweddaraf ym myd dylunio gerddi. Mae’r lluwchfeydd o eirlysiau a welir yng nghoetiroedd yr Henblas yn y gaeaf yn atgoffâd parhaol o waith plannu Elizabeth Morgan.

Yn y 1950au, rhoddwyd ffrog hardd wedi’i brodio ac wedi datgymalu i raddau helaeth i Storiel. Daeth heb fanylion o ran o ble y daethai na phwy oedd ei pherchennog gwreiddiol, ond mae ymchwil diweddar wedi datgelu ei bod yn dyddio o’r 1730au ac mai Elizabeth Morgan oedd ei pherchennog.  Mae hyd yn oed yn bosib mai dyma oedd ei ffrog briodas.

Mae’r arddangosfa hon yn aduno ei dyddiadur garddio a’i llyfr cyfrifon tŷ, ei ffrog briodas a’i phortread sydd wedi ei gael ar fenthyg gan deulu lleol. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle i weld dysgl bwnsh crochenwaith Delft o Lerpwl ac arni slogan wleidyddol a ddaw o’r Henblas ac a roddwyd ar yr un pryd â’r ffrog.