Ymunwch a ni yn Storiel am bnawn hwyl o waith dylunio a thechnoleg gyda Sioned Young sylfaenydd cwmni darlunio digidol Mwydro, gweithdy i greu Gif.
Archebu:
Ymunwch a ni yn Storiel am bnawn hwyl o waith dylunio a thechnoleg gyda Sioned Young sylfaenydd cwmni darlunio digidol Mwydro, gweithdy i greu Gif.
Archebu:
Mae'r cabinet yn cynnwys cyfres o fodelau (maquettes) ar y thema 'Prosiect Terfynol Bychan', ac mae'n arddangos syniadau cychwynnol y myfyrwyr ynghylch y prosiectau terfynol sydd ar y gweill ganddynt. Felly mae cynnwys y cabinet yn rhyw fath o arddangosfa derfynol fechan.
Dewch i bwytho Heddwch gyda'r artist Bethan M Hughes a chreu darn bach o gelf tecstiliau yn ysbryd y Ddeiseb Heddwch i'w rannu hefo'r byd.
Ymunwch â ni yn Storiel ar gyfer diwrnod o Heddwch — diwrnod o greadigrwydd a myfyrdod wedi’i ysbrydoli gan Ddeiseb Heddwch y Merched. Bydd y bore yn cynnwys gweithdy gwnïo gyda’r artist Bethan Hughes, lle byddwn yn creu amlenni symbolaidd o heddwch, ac yn y prynhawn cawn ymuno â Linda Rogers a Carrie Pester ar gyfer sesiwn addfwyn a myfyriol i rannu, trafod a pharhau â’r daith tuag at heddwch. Dewch â’ch cinio eich hun, a bydd coffi a chacennau ar gael i’w prynu yn y caffi os hoffech chi rywbeth melys. Cynhelir y digwyddiad yn bennaf yn Saesneg gyda rhywfaint o Gymraeg, ac mae’n rhad ac am ddim i fynychu.