Yn rhan o raglen cerdd, celf a llen Cadeirlan Bangor: DON IAU, dyma Storiel yn cyflwyno cyngerdd bythgofiadwy. Dyma gyfle i glywed perfformiad byw o record hir gyntaf y cerddor o Fangor, sef Plentyn yr Haul gan Casi. Bydd cefnogaeth ar y diwrnod gan y gitarydd o Fethesda, Al Morrison.
Mae'r pedwarawd o Sheffiled yn ôl i swyno Storiel gyda'u tiwns seicadelig!
Mae'r casglwr recordiau o fri, Toni Schiavone yn ôl gyda pherlau i chi gael gafael arnyn nhw!