Ymateb i’r dirwedd arfordirol lle daw godre’r Carneddau i gwrdd â glannau’r Fenai. Caiff yr artist ei gyfareddu yn gyson gan symudiad a rhythm ac yn y casgliad newydd hwn gwelir ef yn paentio mewn dull llyfn ag uniongyrchol. Gwelir yma astudiaethau bychan mewn dyfrlliw a gweithiau mwy mewn acrylig gan gyfeirio hefyd i waith blaenorol mewn paent olew.

 

“Rwy’n byw ar yr arfordir, lle mae’r Fenai a godrau mynyddoedd y Carneddau yn cwrdd â’r môr.  Roedd yn ymateb naturiol i mi beintio a cheisio gwneud synnwyr o’r hyn a welwn o’m cwmpas.  I ddechrau, defnyddiais baent olew mewn ffordd realistig a mwynheais edrych tua’r gogledd tuag at y môr a symudiad y cymylau a rhythm y sianeli tywod a adawyd ar ôl gan y môr.

Yn ystod cyfnod clo Cofid, dechreuais gerdded bob dydd ar hyd llwybr yr arfordir gan fynd â’m dyfrlliwiau gyda mi i beintio mewn ffordd fwy uniongyrchol a hylifol.  Roedd rhythm a symudiad yn dal i fy swyno ond nawr gallwn ddod o hyd iddo yng ngodrau’r mynyddoedd a’r gwlyptiroedd a welir o lwybr yr arfordir.  Yn ystod y cyfnod hwn hefyd dechreuais beintio gweithiau mwy yn fy stiwdio gan ddefnyddio paent acrylig ar gynfas.  Esblygodd y gwaith o’r dyfrlliwiau ac rwy’n defnyddio techneg debyg.”

Huw Jones