Mae Rhodri Owen yn rhyfeddu at ein tuedd gynyddol i edrych nôl, yn hiraethus gan amlaf, yn hytrach na chofleidio heddiw ac edrych ymlaen i’r dyfodol. Mae dau ystyr i I’r Byw – sut mae profiadau yn ein cyffwrdd yn emosiynol, ac hefyd symud y sylw o gofio’r gorffennol at y byw, at heddiw a’r dyfodol.
Ar yr un pryd, tra’n dylunio a saernio Cadair Eisteddfod Genedlaethol 2017, canmlwyddiant y Gadair Ddu eiconig, trawyd Rhodri gan sut y ’sgubwyd bywydau a gobeithion cenhedlaeth gyfan i ffwrdd gan rymoedd tu hwnt i’w rheolaeth, mewn modd na fyddden nhw na’u teuluoedd byth wedi ei ragweld.
Tra bo’r Gadair honno yn un seremoniol a symbolaidd, yma’n gweithio gyda derw, pîn a sapele, defnyddiodd Rhodri gyfrwng pren i greu dodrefn crefft-llaw gyda llinellau syml glân – dewis arddull pwrpasol er mwyn i’r cysyniad canolog o’r newydd-anedig a thraul anorfod bywyd gael ei ddatblygu.
Cyflwynwyd y dodrefn, gwrthrychau bob dydd cyfarwydd i bawb, fel canfasau glân, gyda grwpiau o gefndiroedd amrywiol iawn ar draws Cymru yn gyfrwng i’r newid wrth i’r gwaith fynd rhagddo – heb unrhyw rwystrau na ffiniau, mynegir eu profiadau nhw o fyw ar y dodrefn mewn ffyrdd gweledol annisgwyl , gan wneud defnydd o ystod eang o gyfryngau, technegau a deunyddiau.
Bydd yr arddangosfa ei hun yn newid hefyd ar ei thaith, gyda gofodau gwahanol yn cynnig cyfleon newydd ar gyfer mewnosod, cyferbyniad a phwyslais – yn arddangosfa fyw!
Wedi eu marcio, lliwio, tyllu, llosgi neu’u datgymalu trawsnewidiwyd dodrefn “newydd-anedig” Rhodri gan fynegi sut mae profiadau bywyd heddiw – llawenydd, trallod, etifeddiaeth ac amgylchedd yn gadael eu hôl arnom i gyd.
Artistiaid gwâdd:
Manon Awst, Rebecca F. Hardy, Llŷr Alun Jones, Christine Mills, Bill Swann, Lisa-Marie Tann, Catrin Williams, Pip Woolf a Kirstin Claxton.