Enlli: Ynys Sanctaidd. Portreadu’r arfordir garw, bywyd gwyllt a phobl wrth waith ym mhrintiau cyfres gyfyngedig dau artist uchel eu parch.

 

Mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn dathlu deugain mlynedd o berchnogaeth yr ynys fechan hon, ddwy filltir o drwyn Penrhyn Llyn ger Aberdaron. Mae’r ynys yn Warchodfa Natur Genedlaethol sy’n cynnal cytref bwysig o forloi a drycin Manaw (ymysg eraill). Am fil o flynyddoedd bu mynych yn byw ar Enlli, a bu’r ynys yn fangre o bererindod am sawl canrif. Am ran helaeth o’r flwyddyn mae’n gartref i bysgotwyr, ffermwyr, artistiaid ac ysgrifenwyr, a daw cannoedd o ymwelwyr dydd, a rhai i aros, rhwng misoedd Ebrill a Medi. Fe ffurfiwyd yr Ymddiriedolaeth yn 1970au hwyr i ddod a phobl ynghyd oedd â diddordeb yng nghadwraeth yr ynys ac i astudio ei bywyd gwyllt, y rhai hynny oedd yn dymuno cadw ei naws ysbrydol a threftadaeth, a’r nifer fechan o breswylwyr tymor hir ar yr ynys.

Yn rhan o’r dathlu, mae’r arddangosfa arbennig hon yn dangos gwaith dau artist, Kim Atkinson ag Ian Phillips. Caiff y ddau eu hysbrydoli gan harddwch tawel, bywyd gwyllt ac arfordir garw Enlli.

Mae Kim Atkinson yn arlunydd bywyd gwyllt uchel ei pharch ac wedi byw ar Enlli. Mae’n arddangos dewis bychan o brintiau a phaentiadau sy’n darlunio bywyd a gwaith pobl Enlli a bywyd gwyllt yr ynys.

Mae Ian Phillips yn feistr ar ei grefft fel gwneuthurwr printiau toriadau leino ac yma mae’n darlunio ewyn ac ymchwydd y môr ar greigiau garw arfordir Enlli. Dyma’r darluniau cyntaf yn ei gyfres newydd o brintiau ‘Ynysoedd Sanctaidd’.

Gwelir eitemau ar fenthyg gan y cyhoedd a chymuned yr ynys ac o gasgliad Storiel o 24ain o Fedi.

I ddathlu ymhellach deugain mlynedd Ymddiriedolaeth Ynys Enlli cynhelir ‘Diwrnod Enlli’ yn Storiel ar Sadwrn 5ed o Hydref.