I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched, ac i lansio arddangosfa ‘Menywod, Rhyfel a Heddwch’ ym Mangor gan y Ganolfan ar Faterion Rhyngwladol Cymru, ymunwch a ni am ddarlith amser cinio am ddim gan Annie Williams yn cyflwyno ‘Votes for Women: The Bangor Suffragists’.
“Ymladdodd y Suffragettes a’r Suffragists y frwydr dros bleidlais fenywaidd. Defnyddiant wahanol ddulliau i hyrwyddo eu negeseuon ac ym Mangor, y Suffragists oedd y rhai mwyaf gweithgar. Roeddynt yn grŵp anghyffredin o fenywod egwyddorol a oedd yn drefnus ac effeithiol iawn. Mae stori’r Suffragists wedi cael ei orchuddio gan dactegau’r Suffragettes a ddaliodd y penawdau newyddion ond mae angen i’r ddau grŵp cael eu cydnabod am eu cyfraniad wrth ennill pleidleisiau i fenywod. “Annie Williams
Bu llawer o Suffragists yn y 1920au hefyd yn weithgar yn y mudiadau heddwch yng Nghymru, ac mae hynny’n dod i’r amlwg yn arddangosfa ‘Menywod, Rhyfel a Heddwch’. Bydd copi o’r ddeiseb wreiddiol a lofnodwyd gan 390,296 o ferched o bob cwr o Gymru yn 1923 yn cael ei arddangos yn Storiel. Cyflwynwyd y ddeiseb i fenywod America yn eu hannog i berswadio’r Unol Daleithiau i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd. Mae Heddwch Nain / Mam-gu yn ymgyrch gyfoes i adennill gweledigaeth byd heb ryfel.
Bydd côr yn ymgynnull i ganu yr ‘Anthem Pankhurst’ am 1.40y.p.