Darganfyddwch ryfeddodau amgylchedd morol gogledd Cymru.

O’n rhywogaethau rhyfeddol o siarcod a phyllau glan môr, i fywyd o dan y tonnau mewn dôl o forwellt, bydd arddangosfa Moroedd Byw yn mynd â chi ar daith i’n moroedd, ar draws ein traethau ac ar hyd ein harfordir.  Byddwn yn ymchwilio i’r effaith a gawn ar ein hamgylchedd naturiol ac yn chwilio am y trysorau morol sy’n gallu golchi i’n glannau.

Gwelir enghreifftiau o gregyn, pyrsiau morforynion (wyau siarcod) a darganfyddiadau diddorol y glannau, dulliau plannu a thyfu morwellt, a ‘thrysorau’ morol megis ffa môr a darnau coll o Lego. Ar ddiwrnodiau penodol bydd aelodau o’r tîm Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar gael i’ch arwain o amgylch yr arddangosfa ac i sgwrsio am eu gwaith yn amgylchedd morol gogledd Cymru. 

  

Os hoffech drefnu ymweliad grŵp i’r arddangosfa yna cysylltwch gyda Reece Halstead,  

Swyddog Ymgysylltu Moroedd Byw (Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru), ar [email protected], neu ar 07375 995023