Ceir llawer enghraifft o ‘ailgylchu’ yng nghasgliad Amgueddfa Storiel.  Mae rhai yn ddarnau prydferth wedi’u gwneud o dameidiau gwerthfawr, eraill yn wrthrychau mâl wedi’u taflu a’u defnyddio mewn ffordd newydd.  Mae ailgylchu’n gwneud defnydd o adnoddau prin – gellir defnyddio saim sydd dros ben ar ôl coginio i wneud cannwyll frwyn, a ffrogiau sydd wedi rhwygo a cholli eu lliw yn gwiltiau clytwaith.

Yn y gorffennol, defnyddiwyd y rhan fwyaf o wrthrychau nes byddant wedi gwisgo’n llwyr, weithiau gan sawl perchennog, neu caent eu troi’n bethau eraill.  Heddiw, mae ailgylchu wedi dod yn beth pwysig mewn ffordd wahanol.  Mae ein gwastraff, yn arbennig hwnnw a ddaw o blastigion a deunyddiau artiffisial, yn bygwth llethu ecosystem fregus y byd.