Bwriedir creu arddangosfa ar y thema ’protest’ yn y cas cymunedol yn Storiel o 30 Mawrth i 26 Medi 2020. Mae bwlch yng nghasgliad Storiel ar y thema protest, felly rydym yn gwneud apêl i gael creiriau ar y thema yma. Os oes gennych chi greiriau tybed a ydych yn barod i unai eu rhoi neu eu menthyg i Storiel.

 

Rydym yn chwilio am greiriau sydd wedi cael eu creu neu eu defnyddio gan bobl yn protestio ar gyfer achosion i gael clywed eu llais yn ystod y 20fed ganrif i fyny i’r presennol sydd yn berthnasol i ardal Gwynedd. Gall hyn fod ar swffragêts, streiciau, yr iaith Gymraeg, protestiadau newid hinsawdd. Gall y creiriau gynnwys eitemau traddodiadol fel baneri, posteri, bathodynnau neu yn greiriau pob dydd sydd yn dweud hanes personol protest.

 

Os oes gennych chi greiriau cysylltwch â Swyddog Casgliadau Amgueddfaol Prifysgol Bangor a Storiel, Helen Gwerfyl [email protected], 01286 679823 erbyn 6 Mawrth 2020.

 

Mae diwrnod taro i mewn wedi cael ei drefnu ar yr 27 Chwefror 2020, 11.00-3.00 yn Storiel ble gellir aelodau o’r cyhoedd ddod a chreiriau yn ymwneud a phrotest i mewn. 

 

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Digwyddiad

Lansiad Llyfr: Nathan Abrams

13 June 2026

Ymunwch â'r Athro Nathan Abrams (Prifysgol Bangor) ar gyfer lansiad ei lyfr newydd, Jews in the Welsh Imagination: From Medieval Times to the Present. Mae'r llyfr newydd arloesol hwn yn datgelu sut mae Cymru wedi dychmygu, cynrychioli, a ymgysylltu â'r Iddewon ac Iddewiaeth dros fwy na wyth canrif. O farddoniaeth canoloesol a brwdfrydedd cenhadol cynhenid i geo­wleidyddiaeth y unfed ganrif ar bymtheg a dadleuon cyfoes am hunaniaeth a chenedlaetholdeb, mae Abrams yn datgelu edafedd gyfrinachol ond pwerus sy'n rhedeg trwy hanes diwylliannol Cymru. Gan herio rhagdybiaethau ac agor sgwrs newydd, dyma gyfrif newydd sylweddol am berthynas gymhleth Cymru ac Iddewiaeth.