“Os na fydd gen i fenig goli am fy nwylo a chit pêl-droed amdanaf, yna heb amheuaeth, fydd gen i frwsh paent yn fy llaw a chynfas o fy mlaen.
Mae fy mhroffesiwn fel peldroediwr wedi caniatáu i mi deithio’r byd ac wedi agor fy llygaid i sut mae pobl o wahanol gefndiroedd yn byw eu bywydau. Lle bynnag mae rhywun wedi bod; o Ddyffryn Nantlle, Inverness i Indianapolis mae profiad bywyd pobl, mewn perthynas â’i gilydd, eu gwaith a’r byd o’u hamgylch yn debyg iawn.
Dyma ydi ysbrydoliaeth yr arddangosfa hon. Mae’r paentiadau mewn olew yn seiliedig ar bobl go iawn a digwyddiadau syml pob dydd. Cymeriadau tawel a’u perthynas gynnes efo’i gilydd, wrth eu gwaith neu’n hamddena. Profiadau sydd yn rhan sylfaenol o’n bywydau ni gyd.
Gyda’r byd o’n hamgylch bellach mor brysur â chymhleth, hoffwn ichi syllu ar fy lluniau gyda’r gobaith y byddwch yn creu cysylltiad personol efo’r cymeriadau yma a daw ac atgof o rywun neu rhywle i chi.
Rwy’n gobeithio’n arw daw a gwên i’ch wyneb.”

Magwyd Owain Fôn Williams yn Nyffryn Nantlle. Yn gôl-geidwad proffesiynol sydd newydd ymuno a chlwb Hamilton Academicals yn y SPFL, wedi cyfnod hapus a llwyddiannus iawn yn chwarae efo Indy 11 yn Indianapolis yn America a derbyn tlws ‘Chwaraewr y Flwyddyn’. Mae hefyd yn gôl-geidwad rhyngwladol a bu’n aelod o garfan tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru a chyrraedd rownd gynderfynol Ewro 2016 yn Ffrainc.
Caiff ei ysbrydoliaeth a’i ddelweddau i’w beintiadau o’r ymdeimlad o ‘berthyn’ i’r bobl wrth edrych o’i gwmpas, yr amgylchedd naturiol lle magwyd a’i falchder mewn hunaniaeth Gymreig.