
Ffeltio Tirlun: Gweithdy Creadigol i Oedolion
01 August 2025Ymlaciwch yn y gweithdy ffeltio hwn ar gyfer oedlion. Byddwch yn dysgu technegau ffeltio gwlyb a ffeltio gyda nodwydd wrth i chi greu tirlun o wlân eich hun i fynd adref. Dewch â llun ar gyfer ysbrydoliaeth neu gadewch i'ch dychymyg neud y gwaith. Byddwch yn darganfod sut i gyfuno gweadau a lliwiau gan ddefnyddio ffibrau naturiol i roi bywyd i gelf. Nid oes angen unrhyw brofiad. Mae'r holl deunyddiau ar gael - dim ond angen dod â'ch creadigrwydd.