Eleni mae’r Rhaglen Celf Gain gymunedol rhan amser unigryw ac arloesol ym Mhrifysgol Bangor (1998-2022) yn dod i ben. Daethpwyd ynghyd a gwaith celf gan 25 o diwtoriaid a fu’n dysgu ar bob lefel gan gynnwys BA ag MA ar gyfer yr arddangosfa ddathlu ffarwel hon.
Dathlu Celf Gain
Yn 1998 gwahoddwyd yr arlunydd a’r Athro Mike Knowles, cyn Bennaeth Celf Gain yn Ysgol Gelf a Dylunio Lerpwl, gan Adran Dysgu Gydol Oes Prifysgol Bangor i ddatblygu rhaglen BA Celf Gain o’r dosbarthiadau celf cymunedol oedd yn bodoli. Y cwrs rhan-amser newydd yma i Ddysgwyr sy’n Oedolion oedd y cyntaf yn y DU i gynnig gradd celf yn y gymuned heb gymorth adeilad ysgol gelf a thechnegwyr. Derbyniodd nifer o wobrau yn cynnwys Gwobr NIACE ar gyfer Arloesi a Rhagoriaeth.
Roedd diffyg cyfleusterau traddodiadol a strwythurau yn mynnu arferion addysgu arloesol i alluogi myfyrwyr i gael profiad dysgu o ansawdd uchel roeddent ei angen ac yn ei haeddu. Roedd angen i’r holl diwtoriaid ar y Rhaglen Celf Gain i fod yn arlunwyr ymarferol oedd yn arddangos eu gwaith. Egwyddor sylfaenol arloesol Mike oedd cefnogi myfyrwyr i ddatblygu ymarfer cynaliadwy yn eu cartrefi a’u hardaloedd eu hunain fel bod natur eu hymarfer oedd wedi ei wreiddio yn parhau yn ddi-dor ar ôl graddio fel arlunwyr proffesiynol.
Aeth y tiwtoriaid allan i neuaddau cymunedol, gan addysgu pobl mor agos â phosib i’w cartrefi, gan gynnwys ymweliadau stiwdio cartref i helpu myfyrwyr i wneud y mwyaf o’r lle a’r cyfleusterau oedd ar gael i ymarfer celf mewn sefyllfa ddomestig.
Cyflwynwyd modiwlau unigol mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol yng ngogledd Cymru, yn cynnwys Bangor, Ynys Môn, Porthmadog a Bae Penrhyn. Roedd yr MA rhan-amser ym Mangor. Mae tystiolaeth o lwyddiant y model a addaswyd yn gyson ac a ddatblygwyd gan Mike a thiwtoriaid eraill i’w gweld drwy’r cydweithredu hirdymor gan arlunwyr lleol gweithredol a ddaeth o’r cyrsiau rhan-amser yma. Roedd yr amcanion yn fwy na dim ond idealistig, gan eu bod yn gweithio go iawn.