DIGWYDDIAD I DATHLU MIS LGBTQ+ BALCHDER

Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad gwych hwn yn Storiel.

Yn 1778, fe wnaeth Sarah Ponsonby ac Eleanor Butler redeg i ffwrdd gyda’i gilydd a daethant yn enwog fel ‘Boneddigesau Llangollen’. Daeth y ddwy Wyddeles uchel ael yma i fyw i Blas Newydd, Llangollen, gogledd Cymru.  Bu’r ddwy yn byw yno am weddill eu bywydau, gydag enwogion yn ymweld ac yn ysgrifennu amdanynt – pawb o’r bardd William Wordsworth i Anne Lister, y ferch lesbaidd oedd yn ddiwydianwraig ac a gadwai ddyddiadur. Roedd cryn chwilfrydedd am y ddwy, sy’n parhau hyd heddiw.  Pam oedd y ddwy yn rhannu gwely gyda’i gilydd, a bedd gyda’u morwyn driw Mary Caryll?  Ai cyfeillgarwch rhamantaidd oedd hyn yn y ddeunawfed ganrif, neu briodas lesbaidd? Mae Boneddigesau Llangollen yn enwog gan fod ymwelwyr yn parhau i droedio drwy eu tÅ· a’u gardd.  Mae eu hanes yn cael ei ail-adrodd – gyda brwdfrydedd a hetiau befar – gan berfformwyr Queer Tales from Wales – Jane Hoy a Helen Sandler (y perfformiad wedi ei ysgrifennu a’i ymchwilio gan Jane Hoy).

Tocynnau £15 gan gynnwys tê a chacen 

15:00-16:15pm

Archebu lle yn hanfodol! 

Ffoniwch 01248 353368

Merched Llangollen/ Ladies of Llangollen @STORIEL | Facebook