SCRATCHNoson o gerddoriaeth arbrofol
MARMALADIES
(Katherine Betteridge Sioned Eleri Roberts)
RHYS TRIMBLE
ALAN CHAMBERLAIN
26.02.2020 7pm
Mynediad am Ddim
Bar dros dro
MARMALADIES
(Katherine Betteridge Sioned Eleri Roberts)
RHYS TRIMBLE
ALAN CHAMBERLAIN
26.02.2020 7pm
Mynediad am Ddim
Bar dros dro
Mae Toria Cameron yn artist gweledol lle mae ei hymarfer yn pontio crefft tecstilau cyfoes a chelf gain. Wedi'i hysbrydoli gan dirwedd Cymru, mae'n archwilio syniadau am le, perthyn a chynefin - y cysylltiad dwfn rhwng pobl a'u hamgylchedd.
Mae dros 3,000 o corlannau defaid ar draws gogledd-orllewin Cymru, ond dim ond tua 100 ohonynt sydd yn gorlannau cymunedol mawr y mae ffermwyr wedi'u defnyddio i ddosbarthu'r llwyth o ddefaid sy'n pori ar y mynyddoedd dros yr haf. Mae'r sgwrs hon yn edrych ar sut mae'r corlannau mawr hyn yn gweithio, pryd, pam a ble y codwyd hwy a sut maent yn ffitio i hanes a diwylliant ffermio mynyddoedd Cymru - ac hefyd sut y maent yn gysylltiedig ag ynys oddi ar arfordir Croatia. Mae llawer ohonynt bellach yn ddirywio a adfeilio ond byddwn yn gorffen y sgwrs trwy weld sut y defnyddir rhai ohonynt hyd heddiw, gan barhau'r patrwm a'r rhythm o gasglu defaid o'r mynyddoedd sydd wedi mynd yn ôl dros 300 mlynedd.
Mae'n fraint cael croesawu un o gantorion mwyaf allweddol ym mudiad cerddoriaeth werin poblogaidd yr 1950au hwyr, y gantores o Canada, Bonnie Dobson, wnaeth gyfansoddi'r anthem wrth-niwclear Morning Dew gaeth ei ryddhau ar ei halbwm Folk City yn 1962.