Mae Storiel yn falch o gyflwyno cyfres o ddigwyddiadau cerddorol yn ein oriel yn y misoedd nesaf. Y perfformiad cyntaf yn y tymor cerddorol yma bydd perfformiad byw o’r album Smargedus.

Mae’r record yma wedi creu cryn benbleth ers iddo gael ei rhyddhau yn 2020 i glod arthurol. Yn seiledig ar caset cafodd ei ffeindio mewn hen garafan yn Ynys Môn rhai blynyddoedd yn ol. Gyda dim bron o wybodaeth ar gael am pwy greodd y cerddoriaeth neu ai arwyddocâd ma’e cwpwl Donna Lee (o’r band Sister’s Wives) ai gwr Robert (aelod o fand byw GospelbeacH a’r Canyon Family) wedi bod yn archwilio y dirgelwch yma ers rhai blynyddoedd ac am ail berfformio’r cerddoriaeth yma mewn digwyddiad unigryw fydd yn gyfundrefn o Emerald Web a cyfansoddi Bebe a Louis Barron. 

Archebwch yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/967631641287?aff=oddtdtcreator

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Arddangosfa Gelf hawlfraint Rhodri Jones

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones

07 September - 02 November 2024

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones, gyda chelf ac archifau sy'n dathlu bywyd a gwaith John Ellis Jones (1929-2023), Darlithydd Clasuron a chyn guradur anrhydeddus yr amgueddfa. "Does dim poen mor fawr â'r cof am lawenydd yn y galar presennol" Aeschylus⁠ Ffocws yr arddangosfa yw detholiad o ffotograffau gan Rhodri Jones sydd yn llyfr COFION.  Maen nhw'n ffotograffau teimladwy, llawer o'i dad John Ellis Jones, yn dilyn marwolaeth ei fam, Renée, ac wrth iddo ddatblygu dementia.  Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys traethodau byrion gan Angharad Price a Manon Steffan Ros, yn ogystal â cherddi dethol sy'n archwilio colled a galar.  Mae'r llyfr yn archwiliad o alar sy'n bersonol ac yn gyffredinol gan ddod ag ymatebion gwahanol ynghyd sy'n troi galar yn sgwrs.