Cyfres o fapiau lliwgar cyfoes yn cofnodi pob ardal o Gymru; yn nodi trefydd, prif lonydd a chadwyni mynyddoedd.

 

Cefais fy ngeni yn Gorseinion a fy magu yng Nghaerdydd.  Erbyn hyn dwi wedi ymgartrefu ym Mangor ac wedi bod yn dysgu Celf a Ffotograffiaeth yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon ers dros 30 o flynyddoedd.  Dros y blynyddoedd yr wyf wedi ymddiddori mewn bob math o Gelf ond yn arbennig felly Caligraffi Celtaidd. 

Y gwaith sy’n cael ei arddangos yma yn Storiel ydi’r gyfres ‘Siroedd a Lonydd Cymru’.  Dros y bedair blynedd diwethaf dwi wedi llwyddo i gofnodi bob ardal yng Nghymru ar ffurf map gan orffen gyda map o Gymru gyfan.  Yn ddiweddar dwi wedi cychwyn cyfres newydd o ‘Drefi Cymru’ ac mae ambell un yma yn yr arddangosfa.  Y bwriad ydi ychwanegu mwy o drefi i’r gyfres yma yn y dyfodol agos.”

SIONED GLYN