
Sgyrsiau Storiel ar thema “Heddwch”
02 - 23 May 2025Dewch i ymuno â ni ar gyfer cyfres arbennig o sgyrsiau prynhawn dydd Gwener sy’n archwilio thema heddwch, wedi’u hysbrydoli gan etifeddiaeth bwerus Deiseb Heddwch Merched Cymru 1923–24. Trefnir y sgyrsiau gan Gyfeillion Storiel, ac mae pob un yn cynnig safbwynt unigryw ar rôl merched mewn mudiadau heddwch, gweithredu cymdeithasol a hanesion sydd wedi mynd ar goll yn aml.