poster
poster

Cabinet Arddangosfeydd: Pump comisiwn artistig sy’n ymateb i gelf cyfoes ein casgliadau cenedlaethol a chasgliadau Storiel

Fel rhan o brosiect Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru, mae Storiel yn gyffrous i fod wedi comisiynu pum gwaith celf sy’n ymateb yn greadigol i gasgliadau Storiel yn ogystal â chelf gyfoes o’r casgliad cenedlaethol, llawer ohonynt sydd i’w gweld ar wefan Celf ar y Cyd . Yr artistiaid comisiwn yw Studio Cybi, Christine Mills, Audrey West, Carreg Creative a Rachel Evans. Bydd pob artist yn eu tro yn arddangos ei gwaith am bum wythnos o fewn cabinet arddangos.  Benthycwyd y cwpwrdd gan yr artist Gareth Griffith sydd wedi’i leoli ger y grisiau ar lawr gwaelod Storiel.

Syniad y comisiynau yw archwilio beth allai’r oriel gelf gyfoes genedlaethol Cymru ei olygu i bob artist a’u cymuned leol, gyda hyblygrwydd o ran sut yr eir i’r afael â hyn a thrwy ba gyfrwng.  Bydd y prosesau a’r allbynnau creadigol yn cyfrannu at ddatblygiad parhaus yr oriel gelf gyfoes genedlaethol.  P’un a yw’r gwaith celf yn cael ei ysgogi mewn ymateb i waith celf neu artist a gynrychiolir yn y casgliad cenedlaethol neu eitem o gasgliadau amgueddfa Storiel, neu’r ddau, bydd ymatebion yr artistiaid yn adlewyrchu diddordeb penodol o’u hymarfer – boed hynny’n berthnasol i gymuned, tirwedd neu dreftadaeth ddiwylliannol yr artist.

Dyddiadau arddangosfeydd y cabinet ydy;

Studio Cybi                     tan 15/06/24

Christine Mills               22/06/24 – 26/07/24

Audrey West                  03/08/24 – 07/09/24

Carreg Creative             14/09/24 – 19/10/24

Rachel Evans                 26/10/24 – 30/11/24

Cynhaliwyd gweithdy o dan arweiniad Carreg Creative lle buodd sgyrsiau creadigol am y prosiect ar y 27ain o Ebrill yn Storiel.  Bydd gweithdy penodol gan rhai o’r artistiaid sydd yn arddangos gan gynnwys;

Gweithdy Audrey West            Dydd Iau 5ed o Fedi, 2024

Gweithdy Rachel Evans            Dydd Sadwrn 9fed o Dachwedd, 2024

_______________________________________________________

Mwy o wybodaeth am Casgliad Celf Cyfoes Cenedlaethol Cymru

Mae’n ddyddiau cynnar i’r fenter oriel celf gyfoes genedlaethol i Gymru. Yn seiliedig ar fodel gwasgaredig, mae’r oriel celf gyfoes genedlaethol i Gymru yn bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol, Cyngor Celfyddydau Cymru, Oriel Myrddin yng Nghaerfyrddin, Oriel Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, Oriel Davies yn y Drenewydd, Storiel ym Mangor, Plas Glyn-y-Weddw yn Llanbedrog, Canolfan Grefft Rhuthun, Oriel Mostyn yn Llandudno, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd ac Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe.

Mae’r casgliadau cenedlaethol y gofalir amdanynt gan Amgueddfa Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol yn ganolog i’r model. Mae gweithiau celf cyfoes o’r casgliadau yn cael eu benthyca i leoliadau partner, i’w cynnwys mewn rhaglenni arddangos ac allgymorth. Law yn llaw â hyn, mae’r ewyllys i ddatblygu cyfleoedd comisiynu, ymgysylltu ac arddangos ar gyfer artistiaid cyfoes Cymru ac i’w cefnogi nhw.

Fel menter genedlaethol, mae’r oriel celf gyfoes genedlaethol i Gymru yn anelu at eirioli dros ymarferion creadigol cyfoes a thyfu cynulleidfaoedd a chyfleoedd i ryngweithio, yn lleol ac yn rhyngwladol. Mae’r model gwasgaredig hwn yn ddull uchelgeisiol sy’n ceisio ymateb i ddiddordebau cymunedau ac adeiladu cefnogaeth gydlynol a hyrwyddo celf gyfoes yng Nghymru ac o Gymru.

Ariennir y fenter gan Lywodraeth Cymru.