I ddathlu Gŵyl Amgueddfeydd a #HanerTymorHanesyddol mae ein cydweithwyr yn Amgueddfa Lloyd George wedi creu cwis newydd spon a fydd yn profi arbenigedd unrhyw un!
Cymrwch olwg yma yna rhannwch eich canlyniadau gyda’r #ArbennigwrLloydGeorge
I ddathlu Gŵyl Amgueddfeydd a #HanerTymorHanesyddol mae ein cydweithwyr yn Amgueddfa Lloyd George wedi creu cwis newydd spon a fydd yn profi arbenigedd unrhyw un!
Cymrwch olwg yma yna rhannwch eich canlyniadau gyda’r #ArbennigwrLloydGeorge
Fel rhan o'r arddangosfa Hirael 'Pobol Iawn' (Portreadau a Lleisiau Hirael), gwahoddir ymwelwyr i ddigwyddiad arbennig sy'n cynnwys trafodaeth gyda'r artist Pete Jones a'r ffotograffydd Robert Eames. Bydd Pentref Coll Y Glannau yn cynnig cyfle unigryw i ymchwilio'n ddyfnach i'r straeon a'r themâu y tu ôl i'r arddangosfa ac i fyfyrio ar hanes gweledol cyfoethog ardal Hirael.
Mae BLAS, Pontio yn cyflwyno project arbennig sy’n cofnodi cymuned arbennig Hirael gyda chefnogaeth Storiel. Mae Gwion Aled Williams a’r ffotograffydd Iolo Penri wedi bod yn ymweld â Hirael sawl gwaith dros gyfnod o flwyddyn gan gael cipolwg o’r gymuned a’r unigolion sy’n byw yno. Bydd nawr cyfle i weld ffrwyth y gwaith o gofnodi cymuned Hirael mewn arddangosfa arbennig yn Storiel.
COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones, gyda chelf ac archifau sy'n dathlu bywyd a gwaith John Ellis Jones (1929-2023), Darlithydd Clasuron a chyn guradur anrhydeddus yr amgueddfa. "Does dim poen mor fawr â'r cof am lawenydd yn y galar presennol" Aeschylus Ffocws yr arddangosfa yw detholiad o ffotograffau gan Rhodri Jones sydd yn llyfr COFION.