Ceri Pritchard yn sefyll o flaen ei baentiadau.
Ceri Pritchard yn sefyll o flaen ei baentiadau.

Ymunwch â ni yn Storiel am 2yp Sadwrn yma i gwrdd â’r artist Ceri Pritchard yn ei arddangosfa ddiweddaraf.

Yn y paentiadau cyfareddol hyn mae Ceri Pritchard yn ceisio cyflawni ymdeimlad o arall fyd, wrth gyfosod y cyfarwydd gyda’r anghyffredin.
Mae ei baentio wedi datblygu drwy brofiad byw gan iddo dreulio nifer o flynyddoedd yn byw a gweithio yn Ffrainc, yr Unol Daleithiau, a Mecsico, gan hefyd gadw cysylltiadau cryf gyda Chymru. Pob gwlad yn cynnig cyfoeth o ddylanwadau sy’n cronni’n barhaus.
Gan weithio mewn 3 a 2 ddimensiwn mae effeithiau rhithiol a seicolegol siâp, lliw a phatrwm yn wastad wedi ei gyfareddu; gan ddod â ffurfiau dynol ac anifeilaidd ynghyd; gan greu gwyriadau swrrealaidd oddi wrth y byd rydym ni’n ei adnabod.