Rydym yn falch o fod yn cynllunio i ail agor Storiel.

Ar hyn o bryd mae staff yn brysur yn paratoi’r adeiladau ac yn rhoi trefniadau yn eu lle i wneud yn siŵr eich bod yn cael y profiad diogel gorau wrth ymweld â ni eto.

Bydd eich ymweliad yn wahanol i’r arfer a bydd angen archebu slot amser o flaen llaw. Bydd manylion pellach ar gael yma unwaith bydd y system yn ei le.

Nid oes dyddiad agor gennym i’w rannu ar hyn o bryd ond fe fydd rhagor o fanylion ar gael yn fuan.

Cofiwch gysylltu drwy adael neges ar y ffon neu ar e-bost os oes gennych unrhyw gwestiwn.

Edrych ymlaen at eich croesawu yn ôl yn fuan!