Trysorau Glan y Môr: Gweithdy Argraffu Plât Gelli

£48 – darperir deunyddiau

Bydd yr artist lleol Jane Fellows yn dysgu gweithdy ar sut i greu printiadau hardd gan ddefnyddio dull argraffu plât Gelli. Gan dynnu ysbrydoliaeth o gasgliad o drysorau o’r traeth, cewch gyfle i arbrofi gyda dail, plu, gwymon, a gwrthrychau eraill i ail-greu gweadau a lliwiau hudolus natur. ⁠

Yn ystod y gweithdy, byddwch yn dysgu sut i osod inc ar eich plât gel i gael y trwch cywir. Byddwch hefyd yn rhoi cynnig ar dechnegau haenu i greu siapiau a phatrymau diddorol yn eich printiadau terfynol. Erbyn diwedd y sesiwn, cewch gyfle i drawsnewid eich dyluniadau yn brintiadau neu gardiau cyfarch i fynd adref gyda chi. ⁠ ⁠

Er y darperir dail, gwymon a phlu, mae croeso i chi ddod â rhywfaint o bethau eich hun. Gorau oll os oes gennych ddeilen fflat neu bluen mewn siâp diddorol a gwead gwythiennog. Bydd amrywiaeth o feintiau a siapiau yn llunio  cyfansoddiad dymunol. Sylwch na chaniateir gwrthrychau ag ymylon miniog gan y gallant niweidio’r plât gelli. ⁠ ⁠ ⁠

P’un a ydych chi’n ddechreuwr neu’n artist profiadol sy’n awyddus i roi cynnig ar dechnegau newydd, mae’r cwrs hwn yn addas i bawb. Nid oes angen unrhyw sgiliau arlunio.

I archebu plis cysylltwch Jane: [email protected] | 07748314586⁠

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Arddangosfa Gelf hawlfraint Rhodri Jones

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones

07 September - 02 November 2024

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones, gyda chelf ac archifau sy'n dathlu bywyd a gwaith John Ellis Jones (1929-2023), Darlithydd Clasuron a chyn guradur anrhydeddus yr amgueddfa. "Does dim poen mor fawr â'r cof am lawenydd yn y galar presennol" Aeschylus⁠ Ffocws yr arddangosfa yw detholiad o ffotograffau gan Rhodri Jones sydd yn llyfr COFION.  Maen nhw'n ffotograffau teimladwy, llawer o'i dad John Ellis Jones, yn dilyn marwolaeth ei fam, Renée, ac wrth iddo ddatblygu dementia.  Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys traethodau byrion gan Angharad Price a Manon Steffan Ros, yn ogystal â cherddi dethol sy'n archwilio colled a galar.  Mae'r llyfr yn archwiliad o alar sy'n bersonol ac yn gyffredinol gan ddod ag ymatebion gwahanol ynghyd sy'n troi galar yn sgwrs.