Mae Merched Chwarel yn grŵp o bedair artist – Marged Pendrell, Jŵls Williams, Lisa Hudson a Lindsey Colbourne – y mae eu gwaith yn gysylltiedig â chwareli Gogledd Cymru, lle maent i gyd yn byw a gweithio.  Bydd Jill Piercy yn ymuno â nhw fel curadur ar gyfer y prosiect hwn.

Fel grŵp o egin artistiaid ac artistiaid sefydledig, mae Merched Chwarel wedi datblygu eu syniadau gyda chefnogaeth grant ymchwil a datblygu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Defnyddiasant y cymal chychwynnol hwn yn eu cydweithio i chwilio am olion troed merched ac i archwilio presenoldeb gwirioneddol mewn amgylchedd lle roedd dynion yn teyrnasu. Roedd eu proses ymchwil yn seiliedig ar gydgerdded yn y chwareli ac ar ymgysylltu â’r gymuned, a datblygodd hwn yn ymchwil haenog yn archwilio treftadaeth ddiwydiannol, hunaniaeth, mapio, cyswllt â lle, iaith, creu marciau, ac ymateb ‘Merched’ cyfoes i etifeddiaeth y chwarel.