Mi fydd orielau celf STORIEL ar gau rhwng y 1af ac y 21ain o Ionawr i osod arddangosfa newydd. Bydd y siop a’r amgueddfa ar agor fel yr arfer.
< Yn ôl i Be Sy' Ymlaen
Mi fydd orielau celf STORIEL ar gau rhwng y 1af ac y 21ain o Ionawr i osod arddangosfa newydd. Bydd y siop a’r amgueddfa ar agor fel yr arfer.
Mae’n bleser croesawy mudiad Nintendo North Wales yn ol i Storiel am pnawn o Gemau, Gwobrau a Gweithio ar y Cyd. Dewch ach Switch ,DS neu Game Boy gyda chi i cael cymeryd rhan mewn cystadleuaeth Gemau. Croeso cynnes i Bawb
Drwy lens celf a hanes, cewch ddarganfod sut daethpwyd â phlanhigion gardd i'r DU o bob cwr o'r byd i'w tyfu fel planhigion addurnol mewn gerddi. Cyfle i archwilio sut gall gadael iddyn nhw ddianc o'n gerddi ni yn yr oes fodern fod yn niweidiol i fyd natur a sut gallwn ni weithio gyda'n gilydd i warchod byd natur rhag rhywogaethau ymledol.
Mae Llif(T) yn falch o gyflwyno un arall yn ei gyfres barhaus o sesiynau cerddoriaeth arloesol ac arbrofol, a fydd yn cynnwys y perfformiwr hynod dalentog, John Bisset.