Mae ‘Rhwng II Olau’ yn gyfres o beintiadau sy’n bodoli rhywle rhwng realiti a ffantasi. Llefydd dychmygol, arallfydol a hudol ydynt, ond sydd wedi eu hysbrydoli gan fynyddoedd trawiadol Eryri.

 

Mae’r paentiadau wedi eu gosod yn y gorffennol pell – heb lwybrau, heb beilonau na phresenoldeb dynoliaeth. Ceisiaf greu naws heddychlon a thawel mewn byd nas cyffyrddwyd gan weithredoedd Dyn.

 

Maen nhw’n beintiadau gobeithiol mewn byd sydd bellach mor ansicr ac yn lle di-gariad ar adegau. Pwysleisiaf y pwysigrwydd i beidio â chymryd harddwch ein tirlun yn ganiataol, ac i amddiffyn byd natur ar bob cyfrif.

 

Mae ‘Rhwng II Olau’ yn awgrymu ein bod ni bron yn y tywyllwch gyda phroblemau’r byd cyfoes yn ymddangos yn eithaf difrifol. Ond, gwelir y goleuni yn treiddio’n bwerus trwy gysgodion, sy’n cynrychioli’r gobaith ein bod ni fel pobl am agor ein llygaid, a chymryd gofal o’r byd a’n gilydd cyn iddi fynd rhy hwyr.

 

Mae’r tywyllwch hefyd yn cyfleu pethau anodd sydd yn amlygu eu hunain mewn bywyd, ond mae cyferbyniad cryf y lliwiau ysgafn yn dangos bod goleuni tu ôl i bob cwmwl a niwl.

 

Rwy’n cyfuno dwy dechneg i gyd-fynd ar elfen o ddeuoliaeth sydd i’r lluniau, sef printio leino a pheintio gyda brws. Mae’r gwead creigiog sy’n cael ei greu gan y leino yn cyferbynnu gyda meddalwch y brws yn y cefndir.

 

Mae tirluniau ‘Rhwng II Olau’ yn llefydd pur a hudolus. Rwy’n gobeithio bod yr arddangosfa yn rhywle i bobol gael dianc iddo o’r byd sydd ohoni heddiw, ac yn ysbrydoli’r gwylwyr i ganolbwyntio ar y goleuni.