Rydym yn gwerthfawrogi eich barn! Mae 2026 yn nodi 200 mlynedd ers adeiladu’r enwog Bont Menai. Sut hoffech chi i ni ddathlu’r achlysur gwych hwn? A fyddai’n well gennych sgyrsiau, gweithdai, neu unrhyw ddigwyddiadau eraill? Rhannwch eich barn drwy ymweld â Storiel a chymryd rhan mewn trafodaeth fywiog ar y ffordd orau i ni goffáu ein hanes.

Cawn sgwrs ragarweiniol am hanes Bont Menai, a thrafodaeth fywiog i ddilyn. Edrychwn ymlaen at glywed eich syniadau!

Yn cynnwys diod poeth a bisgedi

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Arddangosfa Gelf

Prifysgol Bangor: 140 mlynedd o Gasglu Celf

01 February - 29 March 2025

Yn ôl erthygl a gyhoeddwyd gan y ‘Times Higher Education’ yn 2005, mae casgliad celf Prifysgol Bangor ymhlith y deg casgliad celf gorau yn y Brifysgol yn y DU. Mae'r casgliad celf yn cynnwys tua 650 o weithiau, sy'n dyddio o'r 17eg i'r 21ain ganrif, yn ased artistig a diwylliannol pwysig i'r Brifysgol ac i ogledd Cymru gyfan. Mae'r arddangosfa hon yn dathlu pen-blwydd y Brifysgol a'i chelf drwy arddangos uchafbwyntiau o'r casgliad.

Arddangosfa Gelf

Tu Ôl i’r Llenni

08 February - 22 March 2025

Mae ‘Tu Ôl i’r Llenni’ yn brosiect trwy’r rhwydwaith CELF (Casgliad Celf Gyfoes Cymru) a Celf ar y Cyd. Gwefan yw Celf ar y Cyd sy’n rhoi cyfle i bawb bori, dysgu a chael ysbrydoliaeth gan filoedd o weithiau celf gyfoes o gasgliad Amgueddfa Cymru. Bwriad y prosiect oedd peilota sut gall ysgolion cael mynediad gwell i’n casgliadau cenedlaethol – a sut gall orielau sy’n rhan o rhwydwaith CELF helpu hwyluso hynny. Un model o weithio sydd yma. Mae Storiel a Plas Glyn y Weddw wedi gweithio gyda dwy ysgol gynradd; Ysgol Garnedd (Bangor) ac Ysgol Cymerau (Pwllheli), yr artist Luned Rhys Parri ac Amgueddfa Cymru i gyflawni’r gwaith.