Mae’r Celf Agored yn arddangosfa flynyddol sy’n agored i artistiaid a myfyrwyr 16 oed a hŷn sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Eleni gwahoddwyd ceisiadau ar thema Agored gydag amod i’r gweithiau fod yn ddim mwy na maint A1 (594 x 841mm). Gallai’r gwaith celf gael ei gyflwyno mewn unrhyw gyfrwng: paentiadau, darluniau, ffotograffiaeth, ffilm, tecstil, pren, clai ac ar ffurf 2D neu 3D.

Gwelwch yma amrywiaeth o weithiau wedi eu dethol i chi fwynhau. Mae yma 86 o weithiau gan 67 artist.  Eleni, y Beirniad Gwadd oedd Jwls Williams.  Gan longyfarch pawb a gymerodd rhan, eleni cyflwynir gwobr Dewis y Detholwr i Morgan Griffith am ei waith ‘A Descent into the – Maelstrom’. Yn ogystal rhoddwyd Ganmoliaeth i waith acrylic gan Chris Higson, gwaith serameg gan Emily Hughes a gwaith olew gan Maisy Lovatt, sy’n astudio celf yng Ngholeg Menai.

Cewch bleidleisio dros eich ffefryn chi all wedyn fod yn gymwys am wobr Dewis y Bobl, rhodd gan Gyfeillion Storiel a roddir i’r gwaith a gaiff y mwyafrif o bleidleisiau. Ewch ati i ddewis eich ffefryn gan bleidleisio unwaith i’r gwaith hwnnw a’i roi yn y blwch postio arbennig cyn Sadwrn 18fed o Fai.

 

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Arddangosfa Gelf hawlfraint Rhodri Jones

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones

07 September - 02 November 2024

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones, gyda chelf ac archifau sy'n dathlu bywyd a gwaith John Ellis Jones (1929-2023), Darlithydd Clasuron a chyn guradur anrhydeddus yr amgueddfa. "Does dim poen mor fawr â'r cof am lawenydd yn y galar presennol" Aeschylus⁠ Ffocws yr arddangosfa yw detholiad o ffotograffau gan Rhodri Jones sydd yn llyfr COFION.  Maen nhw'n ffotograffau teimladwy, llawer o'i dad John Ellis Jones, yn dilyn marwolaeth ei fam, Renée, ac wrth iddo ddatblygu dementia.  Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys traethodau byrion gan Angharad Price a Manon Steffan Ros, yn ogystal â cherddi dethol sy'n archwilio colled a galar.  Mae'r llyfr yn archwiliad o alar sy'n bersonol ac yn gyffredinol gan ddod ag ymatebion gwahanol ynghyd sy'n troi galar yn sgwrs.