Arddangosfa Gelf

Arddangosfa Gelf

Yn y Cabinet: Ella Louise Jones

15 June - 17 August 2026

Y gwrthrych o’r casgliad a ysbrydolodd y gwaith hwn yw’r Jwg Bellarmine, a ddarganfuwyd ger tŵr gorllewinol Eglwys Gadeiriol Bangor ym 1874. Yn ystod yr 17eg ganrif, credwyd bod y jygiau hyn yn cynnig amddiffyniad rhag ysbrydion a dewiniaeth. Roeddent yn aml yn cael eu llenwi â sylweddau fel wrin, hoelion, a gwrthrychau personol eraill cyn cael eu claddu o dan y ddaear fel rhan o ddefod a fwriadwyd i gadw niwed draw. Ar y pryd, roedd y jwg yn cael ei ddeall fel cynrychiolaeth symbolaidd o’r corff dynol, gyda’i du mewn yn cael ei ddychmygu fel stumog. Mewn ymateb, mae Ella wedi creu cyfres o weithiau tecstil wedi’u ffeltio, eu brodio, a’u gwneud drwy dechneg latch hook, ynghyd â ffurfiau wedi’u castio mewn latecs. Mae’r darnau hyn wedi’u hysbrydoli gan siâp a gwead y stumog ac organau mewnol eraill. Mae hi hefyd wedi tynnu ysbrydoliaeth o’r tyfiant naturiol a allai fod wedi amgylchynu’r jwg tra’r oedd wedi’i gladdu o dan y ddaear, gan gyfuno ffurfiau corfforol ac organig i archwilio themâu cuddio, trawsnewid, a dadfeiliad.

Arddangosfa Gelf

Pel-droed Ym Mangor: Dathlu 150 Mlynedd

20 June - 05 September 2026

Mae Bangor yn dathlu 150 mlynedd o bel-droed yn y ddinas yn 2026. Mae llawer o hanes wedi’i greu yn yr amser hyn, sy’n cynnwys buddugoliaethau enwog a rhediadau cofiadwy mewn cystadlaethau domestig ac Ewropeaidd. Mae’r arddangosfa hon yn rhoi cyfle i chi weld arteffactau a lluniau a cyfle i ddysgu ychydig o’r hanes drwy ddilyn y straeon gan gynnwys rhai o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau’r Clwb. O goliau bythgofiadwy, Cwpanau Cymru, teitlau Cynghrair a nosweithiau bythgofiadwy yn erbyn rhai o’r cewri mwyaf Ewrop, mae'r ddinas hon wedi gweld y cyfan.

Arddangosfa Gelf

Michal Iwanowski

28 March - 27 June 2026

Yn 2008 daeth Michal Iwanowski, yr artist a aned yng Ngwlad Pwyl ac yn byw yng Nghaerdydd, ar draws graffiti ger ei gartref yn dweud 'Go Home, Polish'. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, yng nghanol cefndir Brexit ac Ewrop ranedig, ymgymerodd â thaith anhygoel dros 1900km ar droed rhwng Cymru a'i bentref genedigol, Mokrzeszów yng Ngwlad Pwyl. Ei nod oedd archwilio a deall y syniad o 'gartref'. Cymerodd y daith 105 diwrnod i'w chwblhau, a thrwy hynny fe bostiodd ddyddiadur o'i brofiadau a'i gyfarfyddiadau ar Instagram.