Arddangosfa Gelf
Gwledd Gaeaf
30 October - 31 December 2021Cyfle perffaith am anrheg arbennig i chi, eich teulu neu ffrind. Cewch yma ddewis eang o grefftau cain a bwydydd arbenigol gan artistiaid a chynhyrchwyr lleol.
Pete Jones
09 October - 31 December 2021Atgof personol am le: Bae Hirael. Ardal sydd â threftadaeth forwrol a diwydiannol cyfoethog a hefyd yn le plentyndod i’r artist. Mae’r paentiadau a’r ffilm yn tynnu ar amrediad o gyfeirnodau diwylliannol ag emosiynol sydd yn bwysig i’r artist.
Lloyd Jones
09 October - 31 December 2021Delweddau o’i grwydro o amgylch Cymru a’r byd eang. Gyda diddordeb yn yr estheteg ddynol, cewch gip olwg ar fyd yr ‘hogyn o Wytherin’ sydd yn cofnodi ei gyfnod dros yr ugain mlynedd diwethaf mewn byd sydd yn brysur newid.
CASGLU A CHADW
14 September - 31 December 2021Detholiad o eitemau amrywiol a ddaeth i gasgliad STORIEL yn ystod y 5 mlynedd diwethaf. Mae iddynt oll gyswllt â hanes a diwylliant Gwynedd ac yn rhoddion gan unigolion neu fudiadau.
Tirwedd Llechi
17 July - 16 October 2021Detholiad o brosiectau ar draws cymunedau chwarelyddol Gwynedd a gaiff ei adnabod fel ‘LleCHI’. Mae’r enwebiad a LleCHI yn gyfle i ni ddathlu cyfraniad unigryw tirlun, cymunedau, busnesau a phobl Gwynedd wrth roi to ar y byd.
JTPARRY (ap Idwal) 1853 -1913
10 July - 02 October 2021Golygfeydd o Ddyffryn Ogwen, Nant Ffrancon, Cwm Idwal ac ardaloedd cyfagos gan yr artist lleol ac anhysbys yma o’r 19eg Ganrif. Dathlu Tirwedd Llechi - Cais am Statws Treftadaeth y Byd
‘Cymry ar Gynfas’
10 July - 04 September 2021Deuddeg artist, deuddeg portread. Celf wreiddiol o’r gyfres deledu ‘Cymry ar Gynfas’ ble’r oedd pob rhifyn yn dilyn un artist wrth iddynt ddarlunio un eicon Cymreig mewn celfyddyd o’u dewis.
Glyn Baines a Helen Baines
10 July - 02 October 2021Dathlu lliw, natur a bywyd. Cyfansoddiadau trawiadol o waith colâg haniaethol gan Glyn Baines sy’n deillio o'r gweithiau sydd o'u gwmpas yn ei stiwdio. Yn yr awyr agored gyda phapur a phensel, caiff Helen Baines ei ysbrydoli gan ardaloedd hardd cyfagos megis Cwmystradllyn, Oerddwr a Nantmor i enwi ond y rhai.