John Hedley ac Andrew Smith
01 July - 23 September 2023Daw penllanw sgwrs barhaus dros nifer o flynyddoedd â dau artist sy’n ymwneud â lliw at ei gilydd am y tro cyntaf. Mae'r gwaith newydd hwn yn dangos gwahanol safbwyntiau a dulliau’r artistiaid. Mae gwaith Hedley yn haniaeth organig, sy'n ymateb i siâp, patrymau a graen y pren y mae’n paentio arno. Mae rhythm, ailadrodd a natur ddigymell yn nodweddiadol o Smith, gan gyfuno cyflwr rhesymegol ac emosiynol y gwneud.