Gareth Griffith
08 October - 31 December 2022Treiddio i waith diweddar o’r stiwdio a’r ymarfer o archwilio parhaus; o’r gofod mewnol ac allanol a dathliad o’r broses artistig.
Treiddio i waith diweddar o’r stiwdio a’r ymarfer o archwilio parhaus; o’r gofod mewnol ac allanol a dathliad o’r broses artistig.
Mynegiant creadigol yn archwilio gwrthdaro o amgylch hanes a pherthynas, atgof a phoen, crefydd, a llawenydd. Ewch fewn i ofod yn cynnig amgylchedd adfyfyriol a llonydd, ymysg gwirionedd.
Roedd John Wickens (1864-1936), yn aelod o’r Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol ac yn berchen ar ddwy stiwdio sef y Retina Studio a’r Photographic Studio ym Mangor. Tynnodd nifer o luniau oedd yn dangos bywyd pob dydd pobl yr ardal yn ogystal â golygfeydd lleol. Comisiynwyd hefyd i dynnu nifer o luniau swyddogol a phortreadau o ddinasyddion blaenllaw. Detholiad bychan o gasgliad ffotograffau Gwasanaeth Archifau Gwynedd.
Tri ffotograffydd, pob un gyda ffocws unigol a chyswllt dwfn i’r syniad o berthyn, prydferthwch a swyn eu mamwlad. Maent yn cyflwyno cyfres o ddelweddau yn archwilio tirwedd, goleuni a storïau.
Eleni mae’r Rhaglen Celf Gain gymunedol rhan amser unigryw ac arloesol ym Mhrifysgol Bangor (1998-2022) yn dod i ben. Daethpwyd ynghyd a gwaith celf gan 25 o diwtoriaid a fu’n dysgu ar bob lefel gan gynnwys BA ag MA ar gyfer yr arddangosfa ddathlu ffarwel hon.
Trefluniau cyfoes mewn pwyth, print a thecstil o Fryniau Casia. Casgliad newydd o waith yn dilyn ymweliadau astudio i’r ardal. Rhan o brosiect cyfredol i ddarganfod y cysylltiadau rhwng pobl Cymru a phobl Khasi a Mizo gogledd-ddwyrain India. Gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, RICE ag Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Hefyd baneri arddangosfa gan y Khasi-Cymru Collective
Arddangosfa ar thema agored yn dangos gwaith celf amryfal gyfrwng gan gynnwys paentio, argraffu, ffotograffaeth, gwaith tecstil a ceramig. Cyfle i bleidleisio am eich hoff waith celf. Ein detholwr gwadd y flwyddyn hon oedd Lisa Eurgain Taylor.
Dathlu 125 mlynedd o hanes, storîau a atgofion o Bier y Garth Bangor. Gyda diolch i Gyngor Dinas Bangor, Ffrindiau Pier Garth Bangor a Chronfa Treftadaeth y Loteri.