
Gweithdai Pwytho Heddwch gyda Bethan Hughes
17 April - 20 June 2025Dewch i bwytho Heddwch gyda'r artist Bethan M Hughes a chreu darn bach o gelf tecstiliau yn ysbryd y Ddeiseb Heddwch i'w rannu hefo'r byd.
Dewch i bwytho Heddwch gyda'r artist Bethan M Hughes a chreu darn bach o gelf tecstiliau yn ysbryd y Ddeiseb Heddwch i'w rannu hefo'r byd.
Ymunwch â ni yn Storiel ar gyfer diwrnod o Heddwch — diwrnod o greadigrwydd a myfyrdod wedi’i ysbrydoli gan Ddeiseb Heddwch y Merched. Bydd y bore yn cynnwys gweithdy gwnïo gyda’r artist Bethan Hughes, lle byddwn yn creu amlenni symbolaidd o heddwch, ac yn y prynhawn cawn ymuno â Linda Rogers a Carrie Pester ar gyfer sesiwn addfwyn a myfyriol i rannu, trafod a pharhau â’r daith tuag at heddwch. Dewch â’ch cinio eich hun, a bydd coffi a chacennau ar gael i’w prynu yn y caffi os hoffech chi rywbeth melys. Cynhelir y digwyddiad yn bennaf yn Saesneg gyda rhywfaint o Gymraeg, ac mae’n rhad ac am ddim i fynychu.
Mae LLiFT yn grŵp cymunedol cynhwysol sy’n rhoi’r cyfle i unigolion chwarae neu brofi cerddoriaeth ensemble fyrfyfyr yn rhydd yn rheolaidd ym Mangor, Gogledd Cymru ac i archwilio dulliau rhyngddisgyblaethol ehangach o wneud cerddoriaeth arbrofol.
Mae’n bleser croesawy mudiad Nintendo North Wales yn ol i Storiel am pnawn o Gemau, Gwobrau a Gweithio ar y Cyd. Dewch ach Switch ,DS neu Game Boy gyda chi i cael cymeryd rhan mewn cystadleuaeth Gemau. Croeso cynnes i Bawb
I cyd-fynd hefo "Cynefin", llyfr byr bydd yn cyd-fynd hefo ei ail arddangosfa unigol yn Oriel Môn, bydd yr arlunydd Pete Jones yn trafod ei yrfa trwy profiadau, lleoedd a pobl sydd wedi bod yn bwysig iddo ac sydd wedi dylanwadu ar ei gwaith dros y blynyddoedd.
Mae Llif(T) yn falch o gyflwyno un arall yn ei gyfres barhaus o sesiynau cerddoriaeth arloesol ac arbrofol, a fydd yn cynnwys y perfformiwr hynod dalentog, John Bisset.
Bydd yr arddangosfa'n dangos y camau hawdd y gall unrhyw arddwr eu cymryd i helpu i warchod ac adfer byd natur yng Ngogledd Cymru drwy atal planhigion gardd rhag dianc.
Dewch i ddarganfod hanes Deiseb Heddwch Menywod Cymru, 1923-24 a rôl ganolog menywod Cymru wrth weithio dros heddwch. Gan ddod â chelf ac archifau at ei gilydd, mae straeon y menywod hynod hyn yn ysbrydoledig ac mor berthnasol heddiw â chan mlynedd yn ôl.
Mae'r arddangosfa hon yn dwyn ynghyd waith gan Shani Rhys James a Stephen West. Yn ogystal â benthyciadau gan ein sefydliadau cenedlaethol, mae'r ddau wedi cynhyrchu gwaith newydd mewn ymateb i adeilad a chasgliadau Storiel.