Cyfarfod â’r Tîm- Glain Meleri

Cyfarfod â’r Tîm- Glain Meleri

Enw: Glain Meleri Swydd: Cymhorthydd Safle Prif ddyletswyddau eich rôl yn storiel: Ma’ fy nyletswyddau yn cynnwys agor a chau’r adeilad, paratoi ar gyfer digwyddiadau yn ogystal ag unrhyw dasgau dydd i ddydd yn Storiel. Ers pryd ydych chi wedi gweithio yn storiel? Dechreuais weithio yn Storiel ym mis Ebrill 2022.  Beth yw’r peth gorau… Read more »

Cyfarfod â’r Tîm- Manon Dafydd

Enw: Manon Dafydd Swydd: Cymhorthydd Safle Achlysurol Prif ddyletswyddau eich rôl yn storiel: Agor a chau’r adeilad a chroesawu gwesteion a rhoi cymorth lle mae modd. Ers pryd ydych chi wedi gweithio yn Storiel? 8 mis Beth yw’r peth gorau am eich rôl yn Storiel? Cael gweithio mewn adeilad hyfryd sy’n llawn hanes a chelf… Read more »

Arlunwyr buddugol arddangosfa flynyddol Celf Agored 2022 yn STORIEL, Bangor

Eleni, thema agored oedd i arddangosfa flynyddol Celf Agored yn STORIEL. Mae amrywiaeth diddorol o weithiau celf mewn ffrâm wedi llenwi’r waliau ynghyd ac amrywiaeth o waith crochenwaith. Dyfarnwyd dau baentiad mewn olew gan Jonathan Retallick yn fuddugol am Wobr y Detholwyr. Rhoddwyd hefyd canmoliaeth i waith celf gan wyth artist arall. Fel daw’r arddangosfa… Read more »

Glas neu Binc?

Pan caiff babi ei eni, y cwestiwn cyntaf a ofynnir yw ‘pa ryw ydi o?’, ac yna ‘faint roedd o’n bwyso?’. Ni ddylai yr un o’r cwestiynau hyn wneud gwir wahaniaeth i fywyd unigolyn yn y dyfodol, ond maent yn gymaint rhan ohonom ein bod prin yn eu cwestiynu. Mae disgwyliadau diwylliannol yn cychwyn ar… Read more »

Agweddau’r Rhufeiniaid at Rywedd?

Fe wnaeth agweddau’r Rhufeiniaid a’r Groegwyr tuag at rywedd ddylanwadu ar wareiddiadau mwy diweddar.   Roedd y gymdeithas Rufeinig yn batriarchaidd, a dynion cryf, gwrol, awdurdodol oedd yn ennyn y parch mwyaf. (Vir: y gair Rhufeinig am ddyn) Mae alffa-wrywod wedi eu disgrifio fel ‘treiddwyr anrheiddiadwy’ (impenetrable penetrators) – nid oedd yn cael ei ystyried yn… Read more »

STORIEL Agored 2022 – Enillydd Gwobr y Detholwr: Jonathan Retallick

Ganwyd a magwyd Jonathan Retallick ar Ynys Môn. Yn ei ddyddiau cynnar byddai yn aml yn cerdded cefn gwlad gogledd Cymru gydag artistiaid lleol a chaiff ei ysbrydoli gan y mannau arbennig sy’n swatio yn y tirweddau hardd. Mae’n mynegi’r angerdd hwn drwy ddangos yr effaith caiff golau naturiol ag artiffisial ar amgylcheddau organig, gan… Read more »

Sylw i’r artist: Pete Jones

Cefais fy ngeni a’m magu ym Mangor, Cymru. Ar ôl astudio yn Ysgol Gelf Caer ym 1979, cwblheais radd mewn Celf Gain (peintio) yng Ngholeg Celf a Dylunio Loughborough yn ystod 1983. Yna newidiodd fy mywyd wrth i mi fynd i weithio i’r GIG, gan fod yn Nyrs Anabledd Dysgu am 30 mlynedd, cyn dychwelyd… Read more »

Y Marcwis Dawnsio

Henry Cyril Paget, 5ed Marcwis Ynys Môn (16 Mehefin 1875- 14eg Mawrth 1905), yr Arglwydd Paget tan 1880 ac Iarll Uxbridge rhwng 1880 a 1898, gyda’r  llysenw ‘Toppy’ fe roedd yn Arglwydd  Prydeinig ac  yn adnabyddus am dreulio ei etifeddiaeth ar fywyd cymdeithasol gwyllt a chasglu dyledion enfawr yn ystod ei fywyd byr. Roedd yn… Read more »

Mis ‘Pride’

‘THE LADIES OF LLANGOLLEN’ I ddathlu mis ‘PRIDE’, byddwn yn rhoi hanes bywgraffyddol byr i chi o eiconau LGBTQIA + yng Nghymru a’r cyffiniau. Yr wythnos hon byddwn yn ei chychwyn gyda ‘The Ladies of Llangollen’. Roedd Eleanor Butler (1739-1829) a Sarah Ponsonby (1755-1831) yn dod o Iwerddon yn wreiddiol ond symudon nhw i Plas… Read more »