Arddangosfa Gelf
Doliau
18 November 2020 - 27 March 2021
Mae gan Storiel amrywiaeth o ddoliau yn y casgliad, o ddoliau Fictoraidd i Sindy o’r 1960au, ond y rhai pwysicaf yw’r doliau gwisg Gymreig. Mae doliau yn gyfarwydd fel y teganau mwyaf cyffredin a phoblogaidd ac roedd yn gyffredin i ddoliau gael eu gwneud â llaw gan grefftwyr neu rieni. Yng Nghymru gwerthwyd doliau mewn ffeiriau teithiol a marchnadoedd, ac yn ddiweddarach siopau teganau. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd daeth doliau’n fwy hygyrch. Yn ogystal â’r amrywiol doliau, gwelir hefyd rhai printiau a chardiau post yn dangos enghreifftiau o wisg Gymreig.