‘Gwledd Gaeaf’
13 October 2018 - 05 January 2019Amrywiaeth o waith celf gan arlunwyr a gwneuthurwyr crefftau cain. Cyfle perffaith i ddarganfod yr anrheg arbennig honno.
Amrywiaeth o waith celf gan arlunwyr a gwneuthurwyr crefftau cain. Cyfle perffaith i ddarganfod yr anrheg arbennig honno.
Mae'r arddangosfa'n rhoi sylw i ymarfer y brodyr a'r cydweithio rhyngddynt; byddent yn aml yn cydweithio drwy’r syniadau oeddent yn eu rhannu. Mae'n dathlu cyflawniad y diweddar Paul Davies oedd wedi ymgartrefu ym Mangor. Er na all ymdrin â'i holl waith, ei syniadau a'i gyfraniad, mae'n rhoi awgrym o'i ddylanwad a'i berthnasedd.
Comisiynwyd y Gist Rhyfeddodau hon gan Amgueddfa ac Oriel Gwynedd yn 2015. Cafodd ei chreu gan Emma Hobbins fel rhan o ail-leoli’r amgueddfa i Blas yr Esgob, a elwir bellach yn STORIEL. Ysbrydolwyd y Gist gan gyfoeth casgliad yr amgueddfa a’i bwriad yw dathlu rôl Storiel fel casglwr straeon, atgofion a gwrthrychau o Wynedd gyfan.
Menter ar y cyd rhwng Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Prifysgol Bangor a’r Gymdeithas Archaeoleg Forwrol i goffáu’r rheiny a wasanaethodd ar y môr yn ystod y Rhyfel Mawr.
Mae Criw Celf yn dathlu deg mlynedd eleni. Detholiad o waith celf aml gyfrwng a waned mewn dosbarthiadau meistri eleni.
Darluniadau bywgraffiadol. Gwaith diweddar gan yr arlunydd Bangor-anedig, Staffan Jones-Hughes. Bydd yr arddangosfa'n datblygu dros y cyfnod gan ychwanegu gwaith newydd.
Dathlu Blwyddyn y Môr: Printiau Cyfres Gyfyngedig toriadau leino, colagraff a lithograff gan artistiaid printiau adnabyddus.