![](https://www.storiel.cymru/cymru/wp-content/uploads/sites/2/2019/08/poster-darnold-770x590.png)
Dylan Arnold
14 September - 16 November 2019Ble bu unwaith fywyd a phrysurdeb, mae’r mannau cudd ac angof hyn bellach yn eistedd mewn tawelwch. Mae’r ffotograffau atmosfferig hyn yn cynnig cip ar straeon o’r gorffennol sydd yn araf ddiflannu.
Ble bu unwaith fywyd a phrysurdeb, mae’r mannau cudd ac angof hyn bellach yn eistedd mewn tawelwch. Mae’r ffotograffau atmosfferig hyn yn cynnig cip ar straeon o’r gorffennol sydd yn araf ddiflannu.
Mewn ymateb i newidiadau yn y tir, pobl, iaith, mae’r paentiadau hyn yn archwilio erydiad yn yr hyn a welwn ac a deimlwn gan gysidro sut daw hyfrydwch arall yn eu lle.
Enlli: Ynys Sanctaidd. Portreadu’r arfordir garw, bywyd gwyllt a phobl wrth waith ym mhrintiau cyfres gyfyngedig dau artist uchel eu parch.
Esiamplau o lechi cerfiedig sydd yn Storiel. Lluniwyd y cerfiadau gan chwarelwyr yn y 19eg ganrif, y rhan fwyaf i’w canfod yn Nyffryn Ogwen. Gwelir hefyd ddyluniadau gwehyddu tecstil a phrintiau cyfoes wedi eu hysbrydoli gan batrymau llechi cerfiedig.
Cynllun hybu artistiaid ifanc. Arddangosfa yn dangos cynrychiolaeth o waith celf aml gyfrwng a wnaed mewn dosbarthiadau meistri Ionawr - Mehefin 2019
Casgliad o gwiltiau bychan ar thema a wnaed gan aelodau Grŵp Cwiltiau Cyfoes, (rhan o’r QGBI), ynghyd â gwaith gan ddau artist tecstil gwadd.
Mae ‘Metalau’n Mudo’ yn brosiect ar y cyd rhwng Storiel, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, Oriel Môn a Gwasanaeth Amgueddfeydd Conwy. Gan ddefnyddio’r themâu diwydiant a mudo, bydd yr arddangosfa yn arddangos arteffactau wedi cael eu derbyn fel rhan o’r prosiect Hel Trysor yn ogystal ac arteffactau eraill yng nghasgliad Storiesl o’r Oes Efydd i’r Canol Oesoedd.
Arddangosfa gymysg a chyffrous yn ymateb i thema agored eleni.
Archwiliad cydweithredol o bwy ydym ni- merched chwareli o’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol gan yr arlunwyr Marged Pendrell, Jŵls Williams, Lisa Hudson a Lindsey Colbourne gyda churadur, Jill Piercy