
Arddangosfa Gelf


Paul Davies : ‘Welsh Not’
25 January - 20 March 2020Rhan 2 o arddangosfa ôl-syllol o waith Paul Davies. Yn dangos eitemau nis gwelwyd o’r blaen, gyda ffocws ar y llwy garu WN eiconig, rhan o berfformiad ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1977. Paul Davies oedd y grym yn gyrru Beca.

SAIN 50
11 January - 18 April 2020Mae SAIN wedi bod yn gyfeiliant i fywydau pobl Cymru ers diwedd y 60au, a'r gerddoriaeth a'r caneuon yn drac sain i gyfnodau amrywiol yn ein hanes - mae gan bawb ei stori, ac yn aml, mae cân i gydfynd â'r stori honno. Wedi hanner canrif o recordio a chyhoeddi, dyma archif sy'n drysor cenedlaethol, ac yn rhan bwysig iawn o ddiwylliant a threftadaeth Cymru – arddangosfa yn amlygu peth o’r hanes dros yr hanner can mlynedd ddiwethaf.

‘1970+’
25 January - 28 March 2020STORI FER o’r casgliad... Detholiad o waith celf o gasgliad STORIEL sy'n dyddio o'r 1970au. Gyda gwaith gan: MICHAEL CULLIMORE ANTHONY GOBLE SELWYN JONES SELWYN JONES-HUGHES ALAN McPHERSON BETTY P NEALE CLIVE WALLEY

Cadwch Ar Gau
23 November 2019 - 21 March 2020Gydag ymwybyddiaeth ar ‘faterion rhyw’ yn cynyddu, mae’r arddangosfa hon yn dangos rhai eitemau o gasgliad Storiel sy’n datgelu hanes cuddiedig a newid mewn diwylliant.

Owain Fôn Williams
09 November 2019 - 04 January 2020Portreadu’r pethau syml pob dydd, pobl wrth eu gwaith neu’n hamddena, gyda’r syniad o gymuned sy’n sylfaenol i ni oll. Paentiadau gan artist sydd, os nad yn gwisgo ei fenig gôli yna bydd, yn sicr gyda brwsh paent yn ei law.

Gwledd Gaeaf
19 October 2019 - 04 January 2020Dewis eang o fwydydd arbenigol a chrefftau cain gan gynhyrchwyr ac artistiaid lleol. Cyfle perffaith am anrheg arbennig.

Dylan Arnold
14 September - 16 November 2019Ble bu unwaith fywyd a phrysurdeb, mae’r mannau cudd ac angof hyn bellach yn eistedd mewn tawelwch. Mae’r ffotograffau atmosfferig hyn yn cynnig cip ar straeon o’r gorffennol sydd yn araf ddiflannu.

Wil Rowlands
14 September 2019 - 04 January 2020Mewn ymateb i newidiadau yn y tir, pobl, iaith, mae’r paentiadau hyn yn archwilio erydiad yn yr hyn a welwn ac a deimlwn gan gysidro sut daw hyfrydwch arall yn eu lle.