
Ynysgain
21 January - 18 March 2023Detholiad o ddodrefn, yn bennaf o Ynysgain Uchaf ger Cricieth, ag eitemau cysylltiol o gasgliad Storiel. Cymynroddwyd eitemau Ynysgain gan Dorothea Pughe-Jones, yr olaf yn ei llinach ers y 1630au i fyw yno. Gwelir cymysgfa o ddodrefn derw traddodiadol sy’n nodweddiadol o nifer o ffermdai'r ardal a rhai darnau o ddylanwad arddull Ewropeaidd. Cyfle i weld eitemau nad ydynt yn arferol ar arddangos.