
Arddangosfa Gelf


Cyffwrdd Syria
12 January - 23 February 2019
‘Newydd Eto’
10 November 2018 - 30 March 2019Yng nghasgliad amgueddfa Storiel gwelir nifer o esiamplau o ‘ail-gylchu’. Rhai yn eitemau hardd o ddarnau wedi’i drysori, eraill yn ail-ddefnyddio darnau i’w taflu mewn ffordd newydd. Eitemau o’n casgliad wrth gefn.

‘I’r Byw’
29 September - 03 November 2018
‘Gwledd Gaeaf’
13 October 2018 - 05 January 2019Amrywiaeth o waith celf gan arlunwyr a gwneuthurwyr crefftau cain. Cyfle perffaith i ddarganfod yr anrheg arbennig honno.

‘Gwrthryfel Beca’
22 September 2018 - 05 January 2019Mae'r arddangosfa'n rhoi sylw i ymarfer y brodyr a'r cydweithio rhyngddynt; byddent yn aml yn cydweithio drwy’r syniadau oeddent yn eu rhannu. Mae'n dathlu cyflawniad y diweddar Paul Davies oedd wedi ymgartrefu ym Mangor. Er na all ymdrin â'i holl waith, ei syniadau a'i gyfraniad, mae'n rhoi awgrym o'i ddylanwad a'i berthnasedd.

Cist Rhyfeddodau
08 August - 31 October 2018Comisiynwyd y Gist Rhyfeddodau hon gan Amgueddfa ac Oriel Gwynedd yn 2015. Cafodd ei chreu gan Emma Hobbins fel rhan o ail-leoli’r amgueddfa i Blas yr Esgob, a elwir bellach yn STORIEL. Ysbrydolwyd y Gist gan gyfoeth casgliad yr amgueddfa a’i bwriad yw dathlu rôl Storiel fel casglwr straeon, atgofion a gwrthrychau o Wynedd gyfan.

PROSIECT LLONGAU-U
28 July - 06 October 2018Menter ar y cyd rhwng Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Prifysgol Bangor a’r Gymdeithas Archaeoleg Forwrol i goffáu’r rheiny a wasanaethodd ar y môr yn ystod y Rhyfel Mawr.

CRIW CELF GWYNEDD
09 June - 21 July 2018Mae Criw Celf yn dathlu deg mlynedd eleni. Detholiad o waith celf aml gyfrwng a waned mewn dosbarthiadau meistri eleni.