
Pier 125
26 March - 04 June 2022Dathlu 125 mlynedd o hanes, storîau a atgofion o Bier y Garth Bangor. Gyda diolch i Gyngor Dinas Bangor, Ffrindiau Pier Garth Bangor a Chronfa Treftadaeth y Loteri.
Dathlu 125 mlynedd o hanes, storîau a atgofion o Bier y Garth Bangor. Gyda diolch i Gyngor Dinas Bangor, Ffrindiau Pier Garth Bangor a Chronfa Treftadaeth y Loteri.
Cyfle perffaith am anrheg arbennig i chi, eich teulu neu ffrind. Cewch yma ddewis eang o grefftau cain a bwydydd arbenigol gan artistiaid a chynhyrchwyr lleol.
Atgof personol am le: Bae Hirael. Ardal sydd â threftadaeth forwrol a diwydiannol cyfoethog a hefyd yn le plentyndod i’r artist. Mae’r paentiadau a’r ffilm yn tynnu ar amrediad o gyfeirnodau diwylliannol ag emosiynol sydd yn bwysig i’r artist.
Delweddau o’i grwydro o amgylch Cymru a’r byd eang. Gyda diddordeb yn yr estheteg ddynol, cewch gip olwg ar fyd yr ‘hogyn o Wytherin’ sydd yn cofnodi ei gyfnod dros yr ugain mlynedd diwethaf mewn byd sydd yn brysur newid.
Detholiad o eitemau amrywiol a ddaeth i gasgliad STORIEL yn ystod y 5 mlynedd diwethaf. Mae iddynt oll gyswllt â hanes a diwylliant Gwynedd ac yn rhoddion gan unigolion neu fudiadau.
Detholiad o brosiectau ar draws cymunedau chwarelyddol Gwynedd a gaiff ei adnabod fel ‘LleCHI’. Mae’r enwebiad a LleCHI yn gyfle i ni ddathlu cyfraniad unigryw tirlun, cymunedau, busnesau a phobl Gwynedd wrth roi to ar y byd.
Golygfeydd o Ddyffryn Ogwen, Nant Ffrancon, Cwm Idwal ac ardaloedd cyfagos gan yr artist lleol ac anhysbys yma o’r 19eg Ganrif. Dathlu Tirwedd Llechi - Cais am Statws Treftadaeth y Byd